
Ysgol Eco
Mae Eco-Sgolion yn rhaglen fyd-eang sy’n ymgysylltu â 19.5miliwn o blant ar draws 67 o wledydd, sy’n golygu mai hon yw’r rhaglen addysgol fwyaf ar y blaned. Datblygwyd gan y Sefydliad Addysg Amgylcheddol (FEE) ym 1994 ac fe’i cynhelir yng Nghymru gan Gadwch Gymru’n Daclus.
Mae wedi ei ddylunio i rymuso ac ysbrydoli pobl ifanc i wneud newidiadau amgylcheddol cadarnhaol i’w hysgol a’r gymuned ehangach, tra’n datblygu eu sgiliau allweddol, yn cynnwys rhifedd a llythrennedd, a chwmpasu Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang.
Ariennir y rhaglen gan Lywodraeth Cymru ac mae am ddim i ysgolion Awdurdod Lleol.
Mae’r rhaglen Eco-Ysgol yng Nghymru yn ymdrin â naw pwnc cydgysylltiedig i helpu ysgolion i ddatblygu dull mwy cyflawn o Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang.
Y pynciau Eco-Sgolion yw: Sbwriel, Lleihau Gwastraff, Dŵr, Tiroedd Ysgol, Dinasyddiaeth Fyd-eang, Ynni, Bioamrywiaeth, Byw’n Iach a Trafnidiaeth,
